Cafodd y cysyniad y tu ôl i'r Ffatri Fenter ei ddatblygu gan y cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes, sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg y prosiect ers ei sefydlu nôl yn 2001.
Erbyn diwedd Gorffennaf 2006 rhoddwyd cymorth a gwybodaeth menter i 1949 o gleientiaid a sefydlodd 39% sef 756 o’r rheiny fusnesau blasu busnes eu hunain.
Canlyniadau
Ystadegau Ffatri Fenter (Hydref 2001 - Gorffennaf 2006)
1949 o gleientiaid wedi cael eu cofrestru ar y Ffatri Fenter
1247 o gleientiaid a dderbynniodd dros 14+ awr o gymorth
756 o gleientiaid a sefydlodd fusnes blasu
175 o gleientiaid sydd wedi sefydlu busnes hir-dymor parhaol
104 o swyddi wedi cael eu creu (o fewn y busnesau parhaol)
Graffiau - Cliciwch i gael golwg
Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud?
Dangosodd adborth ansoddol fod technegau sy'n cael eu defnyddio gan y prosiect yn meithrin hyder ac yn galluogi syniadau busnes i droi'n realiti.
Mewn gwerthusiad diweddar o'r gangen 'Blas ar Fenter' gan Old Bell 3, amlygwyd fod 91% o samplau o gleientiaid y Ffatri Fenter wedi rhoi graddfa uchaf o unai 4 neu 5 ble roedd bodlonrwydd cwsmer yn y cwestiwn.