Ffatri Fenter: The Story So Far

Menter a Busnes - Business Development Wales

Menter a Busnes Ffatri Fenter Business Development Wales


Stori Style-ID

Person Home

Eleanor Gardener:
Style-ID

Clywodd Eleanor Gardner am y Ffatri Fenter gan ei ffrind a oedd yn gyn-gleient i'r Ffatri Fenter. Aeth ar y we a darllen amdanom, a sylweddoli mai dyma'r union fath o gymorth yr oedd hi'n chwilio amdano. Roedd hi eisiau dechrau menter fel 'steilydd dillad personol'.

Wedi cyfnod yn Llundain yn astudio Technoleg Dylunio Ffasiwn a Thecstilau yng Ngholeg Ffasiwn a gweithio gydag enwau mwyaf y sector, dechreuodd deimlo'n hyderus y byddai ganddi rywbeth arbennig i'w gynnig i bobl Gymru gan fod ganddi'r wybodaeth unigryw yn syth o Lundain.

"Ar y dechrau roeddwn yn teimlo'n hynod gyffrous, ond roeddwn yn gwybod fod yn rhaid imi ddilyn pethau drwyddo'n iawn. Roeddwn yn awyddus iawn i ddod yn ôl i Gymru gan fod angen y math yma o wasanaeth ar bobl Cymru. Mae gen i gymaint i gynnig."

Mae Eleanor wedi sefydlu Style-ID ers mis Mai 2006. Mae ganddi lawer o gysylltiadau o fewn y byd teledu, ac wedi llwyddo i gael gwaith fel steilydd dillad i'r cyflwynwyr ac actorion.

"Mi fuaswn i wedi dechrau busnes fy hun, p'run bynnag, ond roedd cael y Ffatri Fenter yn fy nghynorthwyo yn codi fy hyder i wrth ddatblygu'r syniad. Roedd y cydlynydd yno imi bob tro i fy helpu."

Cafodd Eleanor gymorth i ysgrifennu cynllun busnes a chymorth gyda rhagolygon ariannol. Ond y grant marchnata oedd y cymorth fwyaf iddi.

"Roedd gwybod fod cymorth ariannol i'w gael yn gymaint o ryddhad; ni fuaswn i byth wedi medru talu allan o fy mhoced fy hun. Roedd y deunyddiau marchnata yn ddrytach na'r disgwyl."

Wrth weithio gyda dylunydd graffeg leol, mae Style-ID wedi datblygu brand hynod broffesiynol a hunaniaeth unigryw. Gweithiodd gyda chleient arall y Ffatri Fenter ar y wefan, sef Owain Searell, amalgam8. Mae hi wrthi hefyd yn trefnu parti lawns yng Nghaerdydd er mwyn hyrwyddo Style-ID. Teimla braidd yn rhwystredig nad oes ganddi ddigon o amser ar ei dwylo i hyrwyddo'r ochr siopwr personol o'r busnes.

Nid ydy hi wedi bod yn broses hawdd, ond fe ddywedodd fod gweithio gyda busnesau mawr a bach yn Llundain wedi bod o help iddi baratoi'i hun ar gyfer y straen.

"Dwi dal yn poeni am bethau fel treth ac yswiriant gan nad ydw i'n dda iawn efo ffigyrau! Ffigyrau ydi'r elfen fwyaf brawychus o ddechrau busnes!"

Cyhoedda mai'r hyblygrwydd yw'r elfen fwyaf positif o weithio iddi hi ei hun. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio ar brosiectau amrywiol.

"Mae pob dydd mor wahanol. Dwi wrth fy modd."

Galeri Lluniau

Cliciwch i'w ehangu

DEE Image 1

Ffatri Fenter Menter a Busnes Business Development North South West Wales
Eleanor Gardener
Style-ID
Bangor
07876793825
www.style-id.co.uk
info@style-id.co.uk
Style-ID
English English | Cymraeg Welsh