Wrth barhau â'i chyfrifoldebau o fod yn fam sengl llawn amser i bedwar o blant ifanc, ynghyd ag ysgwyddo dyletswyddau eraill, llwyddodd i ddatblygu ei syniad busnes ac o fewn rai misoedd ganed Make it Pretty.
Ar y dechrau, cwmni dylunio a chynhyrchu papurach priodasol unigryw oedd Make it Pretty. Bellach mae'r cwmni wedi'i ddatblygu i gynnwys elfennau eraill o gynllunio priodas megis addurno'r lleoliad, gwasanaeth llogi gorchudd cadeiriau, addurno byrddau a chyd-drefniant cyffredinol priodas.
Cyn dechrau ei menter, teimlodd yn bryderus ac roedd yn poeni am yr ochr ariannol."Fy mhryder oedd bod gen i ddiffyg gwybodaeth gyffredinol am redeg busnes. Doeddwn i ddim yn awyddus i ypsetio fy nghyfrifydd! Ond roedd y gefnogaeth a gefais gan y Ffatri Fenter yn wybodus a defnyddiol iawn."
Derbyniodd gymorth i ysgrifennu cynllun busnes, grant marchnata ar gyfer talu am gardiau busnes a benthyciad di-log i gynllunio gwefan.
"Dyma ffordd wych i ddechrau a hefyd yn ddull defnyddiol iawn i wybod beth i'w wneud yn y camau ar ôl treialu'r syniad. Drwy'r Ffatri Fenter, mi gefais fwy o gymorth ariannol gan y Cyngor a aeth tuag at gynhyrchu mwy o ddeunyddiau marchnata."
Mae Make it Pretty yn ehangu i'r farchnad Ewropeaidd drwy gymorth Masnach Cymru Ryngwladol a ariannir gan y Cynulliad. "Rwy'n gynhyrfus iawn efo'r ffordd mae pethau'n mynd. Rwy'n teimlo'n eithaf hyderus ond er hyn, rwy'n dal i ddysgu pob dydd."
Cliciwch i'w ehangu

