Ffatri Fenter: The Story So Far

Menter a Busnes - Business Development Wales

Menter a Busnes Ffatri Fenter Business Development Wales


Stori D.E.E. Engineering

Person Home

Dafydd Evans:
D.E.E. Engineering

Mab fferm o Lanwrin ger Machynlleth yw Dafydd Evans. Gan ei bod hi'n amhosib cynnal tri brawd ar y fferm yn llawn amser, bu'n rhaid i Dafydd, y brawd ieuangaf, feddwl am ffyrdd eraill o ennill incwm. Gan ei fod yn ymddiddori mewn weldio ers blynyddoedd y peth amlwg i'w wneud felly oedd troi'r diddordeb hwnnw yn fusnes go iawn.

Daeth Dafydd i ymweld â ni ar stondin Menter a Busnes yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ac mi roedd hi'n amlwg ei fod yn benderfynol o sefydlu busnes weldio rhan amser yn fuan. Penderfynodd y Ffatri Fenter y buasent yn medru cynorthwyo Dafydd i roi gwedd broffesiynol ar ei fusnes. Ar ôl cwblhau cynllun busnes gydag ef, a cheisio am grant marchnata, aethpwyd ati i roi gwaith i ddylunydd graffeg er mwyn dylunio logo, papurau pennawd, cardiau busnes a llyfrau anfoneb. Yn ogystal â hyn, trefnodd y Ffatri Fenter bod sticeri yn cael eu cynhyrchu i'w rhoi ar drelars a siediau y byddai'r busnes yn ei gynhyrchu.

Er mai gwneud trelars yn ôl cais y cwsmer oedd y syniad cyntaf, mae'r busnes wedi datblygu'n raddol i faes codi siediau, ac mae'r gwaith bellach yn llenwi holl oriau ei wythnos. Yn wir, bu'n rhaid iddo recriwtio gweithiwr llawn amser arall yn ddiweddar i'w gynorthwyo gyda'r gwaith. Derbyniodd hwnnw wobr 'Aprentis y Flwyddyn' drwy Bowys yn ddiweddar ac mae bellach trwodd i'r rownd genedlaethol.

Mae Dafydd wedi cael llwyddiant yn y Gystadleuaeth Fenter (sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn ar y cyd rhwng clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a'r Ffatri Fenter). Erbyn hyn mae'n cyflogi un gweithiwr llawn amser a thri rhan amser.

"Pan welais gyfle, wnes i ddim petruso i fynd amdani yn syth. Roeddwn yn gweithio gartref ac yn contractio i gwmni lleol arall...meddyliais y gallwn dreialu busnes fel hyn am ddeufis cyn mynd yn ôl i weithio i rywun arall. Ond dydw i ddim wedi troi'n ôl ac mae'r busnes yn dal i dyfu."

Galeri Lluniau

Cliciwch i'w ehangu

DEE Image 1

Ffatri Fenter Menter a Busnes Business Development North South West Wales
Dafydd Evans
D.E.E. Engineering
Llanwrin, Machynlleth
07751514848
D.E.E. Engineering
English English | Cymraeg Welsh