Ffatri Fenter: The Story So Far

Menter a Busnes - Business Development Wales

Menter a Busnes Ffatri Fenter Business Development Wales


Stori Palet

Person Home

Ellis Wyn Jones:
Palet

Cefndir yn gweithio fel rhedwr, gyrrwr loriau a dyn set gyda chwmnïau teledu sydd gan Ellis Wyn Jones. Yn ddealladwy felly, pan roedd o'n cysidro camu allan o'r diwydiant teledu i fyd peintio ac addurno, roedd yn teimlo'n nerfus iawn.

Daeth Ellis i sylweddoli nad oedd cymaint o waith ar ei gyfer yn gweithio i'r cyfryngau, felly gwelodd gyfle i weithio iddo fo'i hun ar y cyd.

Cyn pen dim, roedd Ellis yn gweithio fwy neu lai yn llawn amser ar y busnes gan fod y gwaith yn llifo mewn yn gyson a chyflym.

"Cyn cychwyn, es i allan i'r siopau lleol gyda ffleiars wedi'i gwneud yn broffesiynol ac ymweld â gwerthwyr tai ac ati er mwyn hyrwyddo fy hun. Mae gen i gysylltiadau da efo adeiladwyr a phlymwyr hefyd. Mae pethau'n mynd yn dda iawn."

Teimla Ellis fod y Ffatri Fenter wedi bod o help mawr iddo. Derbyniodd dau wahanol grant yn cynnwys grant marchnata a aeth tuag at ddatblygu brand trawiadol. Hefyd, derbyniodd grant hyfforddiant er mwyn talu i fynd ar gwrs Iechyd a Diogelwch a chwrs nos Dylunio Fewnol.

"Heb gymorth y Ffatri, byddai wedi bod yn llawer mwy o frwydr. Roedd gan y cydlynydd gysylltiadau da megis lle i fynd am gardiau busnes a dylunio logo o safon ac ati. Roedd benthyciad di-log ar gyfer prynu gliniadur yn werthfawr iawn."

Mae Ellis yn cyfaddef bod rhedeg busnes yn golygu llawer o waith, ond gydag arweiniad y Ffatri Fenter, dywedodd mai dechrau busnes ei hun yw'r peth gorau sydd wedi digwydd iddo.

"Nawr, mae gen i lawer mwy o hyder efo pob dim, yn enwedig hyder yn fy hun. Mae'n ffordd dda o ddod i adnabod pobl eraill, ond yn fwy na hynny dwi'n adnabod fy hun yn well."

Cafodd Palet ei gyfeirio ymlaen i'r Rhaglen Datblygu Cyflenwyr Lleol.

Galeri Lluniau

Cliciwch i'w ehangu

DEE Image 1

Ffatri Fenter Menter a Busnes Business Development North South West Wales
Ellis Wyn Jones
Palet
Penygroes
01286 881529 / 07775770980
www.palet.co.uk
info@palet.co.uk
Palet
English English | Cymraeg Welsh