Ffatri Fenter: The Story So Far

Menter a Busnes - Business Development Wales

Menter a Busnes Ffatri Fenter Business Development Wales


Stori Inspirations

Person Home

Heather Drake:
Inspirations

Nôl yn Mai 2005 cafodd Heather ei chyfeirio at y Ffatri Fenter gan Venture Wales. Roedd hi'n awyddus iawn i gael cymorth er mwyn ail ddeffro ei chariad tuag at steilio gwallt. A hithau wedi bod yn steilydd gwallt ers iddi adael yr ysgol, doedd ond yn naturiol iddi fod eisiau dechrau ei busnes ei hun.

"Roeddwn yn teimlo'n bryderus ar y dechrau, ac nid oeddwn yn siwr pa ffordd i droi er mwyn dilyn llwybr hollol newydd imi. Mi wnes i wrando ar gyngor y Ffatri Fenter."

Yn ôl Heather, fe dderbyniodd y cyngor angenrheidiol a chall er mwyn gwireddu ei syniad busnes. Dim ond un agwedd o'i busnes yw torri gwallt. Erbyn hyn mae Heather yn arbenigwraig wigiau a darnau gwallt synthetig a gwallt go iawn. Dyma fusnes sensitif gan ei bod yn delio â phobl sy'n dioddef o afiechydon megis alopesia neu rhai sy'n derbyn triniaeth cemotherapi. Mae hi hefyd yn ddylunydd gwallt sy'n cynnig gwasanaethau steilio amrywiol - sythu, lliw, 'hair extentions' ac ati. Er mwyn denu mwy o gwsmeriaid, a gan fod ganddi'r gallu a chymwysterau priodol, gwelodd gyfle i gynnig pecynnau triniaethau traed a dwylo, a agorodd y drws i mewn i'r farchnad briodas.

"Cefais lawer o gefnogaeth gan y Ffatri Fenter ac mi roedd fy nghydlynydd yn rhagorol. Derbyniais grant ar gyfer deunyddiau marchnata, cymorth i ysgrifennu cynllun busnes, cyswllt ar gyfer dylunydd gwefannau, a jyst gwybod fod yr help yna i mi. Oes angen dweud mwy?! Roedd hi werth yr alwad ffôn honno!"

Mae Inspirations yn gwneud yn dda er ei bod yn cyfaddef fod yr ochr wigiau o'r busnes yn arafach yn datblygu na'r ochr dylunio gwallt. Teimla fod popeth wedi disgyn i'w lle. A hithau'n fam i ddau o blant, mae hi'n medru plethu ei dyletswyddau fel mam, fel gwraig ty a'i rôl fel bos, yn ei gwneud yn fodlon iawn ei byd.

"Mae gorfod gwneud penderfyniadau pwysig dal i fod yn fy mhoeni, er hynny mae pob cam o'r daith yn fy ngwneud yn berson gwell a dwi'n gwenu wrth ddeffro pob bore!!"

Galeri Lluniau

Cliciwch i'w ehangu

DEE Image 1

Ffatri Fenter Menter a Busnes Business Development North South West Wales
Heather Drake
Inspirations
Penybont
01656 656364 / 07989540531
www.inspirationwigs.co.uk
heather@inspirationwigs.co.uk
Inspirations
English English | Cymraeg Welsh