Ffatri Fenter: The Story So Far

Menter a Busnes - Business Development Wales

Menter a Busnes Ffatri Fenter Business Development Wales


Stori Dinky Drama

Person Home

Sarah Owen:
Dinky Drama

Gyda thri o blant, yr ieuengaf yn ddim ond yn fabi, sefydlodd Sarah Owen 'Dinky Drama', busnes sy'n cynnal dosbarthiadau drama, symud a cherdd i blant rhwng 2 a 5 oed.

Ar y cychwyn, doedd Sarah ddim yn ystyried fod Dinky Drama yn unrhyw beth mwy na ffordd o ennill tipyn o arian poced dra'r oedd yn magu'r plant. Ond ar ôl cysylltu â'r Ffatri Fenter a chael help i lunio cynllun busnes, buan y sylweddolodd ei fod yn syniad busnes gyda chryn botensial.

Dywedodd Sarah: "Roeddwn i wedi sylwi bod yna ddiffyg sesiynau drama greadigol yn yr ardal i blant o dan 6 oed. Gan fy mod i wedi cymhwyso fel athrawes ddrama, roedd hyn yn rhywbeth y gallwn i'w gynnig ac mi gychwynnais drefnu ychydig sesiynau'r wythnos."

Mae'r ymateb wedi bod yn wych hyd yma, ac yn barod mae gan Sarah syniadau ar gyfer datblygu'r gwasanaeth a'i ymestyn i ardaloedd eraill yn y dyfodol agos.

"Y peth gorau am redeg busnes fy hun," meddai Sarah, "yw fy mod yn medru gweithio'n rhan-amser a threfnu fy oriau o amgylch y plant a'r teulu."

Galeri Lluniau

Cliciwch i'w ehangu

DEE Image 1

Ffatri Fenter Menter a Busnes Business Development North South West Wales
Sarah Owen
Dinky Drama
Welshpool
01938 555775
www.dinkydrama.co.uk
info@dinkydrama.co.uk
Dinky Drama
English English | Cymraeg Welsh