"Doeddwn i ddim yn awyddus i'r syniad busnes fod yn un oedd angen costau cychwynnol mawr.Doeddwn i ddim eisiau cymryd benthyciad o £10,000 i ddechrau'r busnes, felly'r Ffatri Fenter oedd yr opsiwn gorau i ariannu'r lansiad."
Mae eu hymrwymiad i'r fenter yn un i'w edmygu. "Roeddem ni wastad yn hyderus ac yn ymroddgar i'r fenter ac rydym wedi treulio llawer o amser yn datblygu'r syniad busnes a strategaeth farchnata addas ar gyfer y cwmni. Ond roeddem ni hefyd yn ymwybodol mai'r chwe mis cyntaf o redeg cwmni fyddai'r cyfnod anoddaf."
Yn dilyn cefnogaeth broffesiynol y Ffatri Fenter, adnabwyd y farchnad a'r llwybr gorau i'r hogiau ei ddilyn o fewn y diwydiant cystadleuol yma. Mae'r cwmni wedi ei ddylunio i fod yn adnodd recordio symudol sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau eraill o olygu sain i drosleisio. Daethant hefyd i sylweddoli beth oedd elfennau pwysig o redeg busnes newydd .
"Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio arian er mwyn caniatáu i'r hysbysebu a marchnata'r cwmni gynnal ei gysondeb. Er bod torri mewn i'r farchnad fawr yn anodd, rydym wedi profi cysondeb mewn gwerthiant drwy rwydweithio'n lleol."
Cydnabodd Ryan a Shaun fod y cymorth a gawson nhw yn broses hawdd i'w gwblhau ac maen nhw'n falch o'r cymorth effeithlon a gafwyd. Ond yn fwy na dim, fe ddywedon fod y Ffatri Fenter yn ddryw iddyn nhw ac yn cadw at eu gair.
Cliciwch i'w ehangu

