Nôl yn 2003, aeth cydlynydd y Ffatri Fenter at fyfyrwyr Cyfle i wneud cyflwyniad er mwyn hybu'r prosiect. Gwelodd Owain gyfle i ddylunio a chynhyrchu cynnwys a deunydd creadigol aml-gyfryngol ar ei liwt ei hun. "Doeddwn i ddim yn nerfus ond roedd chwilio am gefnogaeth i wneud hyn yn bosibl braidd yn frawychus. Roeddwn i'n sylweddoli y byddai'n broses eithaf hir. Ond roeddwn yn hyderus o fy syniad."
Mae Owain yn gweithio fel hyfforddwr cyfrifiadurol i Gyngor Gwynedd a'r rhwystr mwyaf sy'n ei wynebu yw diffyg amser. "Un broblem sydd gen i ydi nad oes gen i ddigon o amser ar fy nwylo i farchnata o ddifrif i chwilio am fwy o waith. Er hyn, mae gen i brosiectau ar y gweill efo cwmnïau o fewn diwydiant dylunio creadigol a labeli recordio."
Fe gafodd Owain gymorth helaeth gan y Ffatri Fenter - cymorth i ysgrifennu cynllun busnes, cymorth i gyfieithu termau technegol o'r Saesneg i'r Gymraeg, grant marchnata ar gyfer logo, cardiau busnes ac i brynu cd's ar gyfer creu portffolio, benthyciad di-log a grant ar gyfer hyfforddiant.
"Dyma'r union help sydd ei angen ar rywun i ddechrau busnes. Yn fy marn i, mae'n bwysig creu argraff broffesiynol o'r cychwyn cyntaf. Mae'n angenrheidiol datblygu brand, logo a chardiau busnes. Mae delwedd mor bwysig."
"Dwi'n llawer mwy hyderus ond dwi'n sicr ddim am adael i bethau fod fel y maen nhw. Rwyf eisiau'r busnes i dyfu a dwi wir eisiau chwilio am fwy o waith. Dwi'n hapus efo sut mae pethau'n mynd ond dwi'n awyddus i wneud llawer mwy o welliannau."
Cliciwch i'w ehangu