Cyd-destun/Safle Strategol / Blas ar Fenter / Sut ydym yn recriwtio cleientiaid? / Ymgyrchoedd Marchnata
Ymgyrch Rhienipreneurs (Gaeaf 2005 - Gwanwyn 2006)
Targedu rhieni â phlant ifanc drwy eu hannog i dreialu syniad busnes yn ystod eu cyfnod mamolaeth / tadolaeth. Lluniwyd taflen i dargedu'r farchnad hon yn arbennig, gan ddefnyddio straeon ysbrydoledig ar ffurf astudiaethau achos o gleientiaid presennol y Ffatri Fenter sydd yn rhieni ifanc eu hunain. Cynhyrchwyd tegan straen (stress toy) yn ogystal gan ddilyn thema 'Fuwch Las' y prosiect. Defnyddiwyd rhwydweithiau megis 'Mudiad Ysgolion Meithrin' a 'TWF' i ddosbarthu'r deunyddiau hyn.
Posteri a matiau cwrw - tafarndai (Haf - Hydref 2005))
Gan ddilyn thema'r 'Fuwch Las' uchod, defnyddiwyd yr ymgyrch hon i dargedu ardaloedd daearyddol penodol. Dosbarthwyd posteri hefyd o amgylch siopau, swyddfeydd a chanolfannau hamdden yn yr un trefi a chymunedau.
Hysbysebion 'Gyrfa' (Hydref- Gwyanwyn 2006)
Hysbysebu'r opsiwn o dreialu syniad busnes, yn hytrach na mynd am swydd newydd, yn adran swyddi papurau newydd amrwyiol ar draws Cymru.
Mynychu Gwyliau a Sioeau Ffair Aeaf, Sioe Frenhinol, Eisteddfodau Cenedlaethol. (Parhaol)
Mae Swyddogion Datblygu Rhanbarthol y Ffatri Fenter yn mynychu sioeau a gwyliau ar draws Cymru drwy gynrychioli'r prosiect ar stondin corfforaethol Menter a Busnes mewn digwyddiadau megis Y Ffair Aeaf, Y Sioe Frenhinol, Eisteddfodau Cenedlaethol, Sioe Sir Benfro, Sioe Ynys Môn. Cyfeiriwyd 20% o'r holl ymholiadau a dderbyniwyd gan Menter a Busnes yn y Sioe Frenhinol at y Ffatri Fenter.
Ymgyrch Sector Gyhoeddus (Gwanwyn 2006)
Oherwydd bod llawer o brosiectau Amcan 1 yn dod i derfyn ddiwedd 2006, rydym wedi bod wrthi'n annog gweithwyr cyflogedig i beilota syniad busnes ochr yn ochr â'u gwaith. Hyrwyddwyd hyn drwy werthu buddion o fod ar y rhaglen fel eu bod gyda'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad cadarn ynglyn â hunangyflogaeth pe byddai eu cytundeb swydd yn dod i ben.
Ymgyrch Sector Breifat (2006)
Trwy dargedu gweithwyr cyflogedig sydd â sgiliau trosglwyddadwy all fynd i weithio iddynt eu hunain ac ennill llawer mwy o arian nag o weithio i gwmni arall. Rydym yn eu hannog i beilota syniad busnes drwy sicrhau eu bod yn parhau i weithio ond ar yr un pryd yn ennill ceiniog neu ddwy yn ychwanegol.
