Cyd-destun/Safle Strategol / Blas ar Fenter / Sut ydym yn recriwtio cleientiaid? / Ymgyrchoedd Marchnata
Mabwysiadodd Ffatri Fenter dechnegau recriwtio rhagweithiol ers y dechrau, ac rydym wedi mynd ati'n fwriadol i dargedu pobl na fyddai wedi ystyried mentergarwch fel arall. Dros y pedair blynedd diwethaf bu'r prosiect yn canolbwyntio ar bobl ifanc o dan 40 o bob cefndir, gan redeg amryw o ymgyrchoedd marchnata i dargedu grwpiau amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys myfyrwyr y tu allan i weithgareddau academaidd ffurfiol, meibion a merched ffermydd ynghyd â rhieni ifanc.
Cafodd sesiynau creadigol eu teilwra yn arbennig ar gyfer grwpiau targed amrywiol er mwyn archwilio mentergarwch fel llwybr posib ac i ysbrydoli darpar entrepreneuriaid. Cynhaliwyd y rhain gyda grwpiau o fyfyrwyr mewn colegau addysg bellach ac uwch a gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru. Datblygwyd deunyddiau marchnata ac 'astudiaethau achos' ysbrydoledig yn benodol i dargedu rhieni ifanc. Mae'r Ffatri Fenter wedi bod yn sicrhau presenoldeb rheolaidd mewn nifer o Ŵyliau haf, eisteddfodau, sioeau amaethyddol a digwyddiadau cymunedol er hyrwyddo'r prosiect a'i amcanion a chodi ymwybyddiaeth.
