Mae'r gweithdai 'Action Learning' yn cynnig cyfle i grwp bychan o fusnesau sydd un ai yn y broses o ddechrau busnes neu dreialu syniad busnes, i rannu syniadau. Rhoi'r cyfle i bawb gyflwyno eu busnes a thrafod pa fath o gymorth a chyngor maen nhw ei angen, beth yw'r camau maent wedi eu cymryd a beth sydd i'w gyflawni nesaf. Rôl y cleientiaid eraill yw gwrando, ystyried, gofyn cwestiynau a chynnig cyngor. Mae'n gyfle i rwydweithio ac efallai hyd yn oed i annog busnes ymhlith ei gilydd. Ond yn bwysicach oll, mae'n gyfle i ddatblygu a magu syniadau, datrys problemau a chael adborth ar sut i oresgyn rhwystrau. Ar ddiwedd y sesiwn mae pob cleient yn casglu rhestr o bwyntiau gweithredu positif a chadarnhaol gyda chymorth gweddill y grwp. Mae'r gweithdy 'Action Learning' wedi ei deilwro'n arbennig gan dechnegau sy'n cael ei ddefnyddio gan brosiect Llywodraeth Cynulliad Cymru, Agrisgôp ac wedi profi'n fuddiol iawn i gleientiaid y Ffatri Fenter.
Mae gweithdy Marchnata wedi'i anelu at bobl sydd ar fin dechrau neu sydd newydd sefydlu busnes blasu eu hunain ac yn edrych am ffyrdd o gynyddu eu sylfaen cwsmeriaid. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar 3 agwedd: 1) cynyddu nifer y gwerthiant, 2) cynyddu'r elw ar bob gwerthiant, 3) annog a chynyddu gwerthiant rheolaidd .Mae'r gweithdy yn edrych ar bwysigrwydd USP (Unique Selling Point) y busnes ac yn rhannu technegau gyda chleientiaid ar binbwyntio'r rhain yn ogystal â chyfrifo 'gwerth elw oes' eu cwsmeriaid a beth sy'n gwneud hysbyseb da. Mae'r technegau a ddefnyddir wedi eu teilwra i syniadau busnes y grwp sy'n gwneud y gweithdy yn berthnasol i bawb sy'n bresennol. Mae pob cleient sy'n mynychu hefyd yn derbyn adroddiad rhad ac am ddim sef "5 Ffordd i Dyfu Busnes", adroddiad a ddatblygwyd gan Melina Abbott perchennog cwmni Business by Results. www.businessbyresults.com
Ar y cyd â Chymdeithas Tecstilau a Dillad Cymru, fe drefnodd y Ffatri Fenter weithdy Future Tex i gynnig gorolwg ar y diwydiant tecstilau i ddarpar fusnesau blasu'r prosiect. Ceir cyflwyniadau manwl ar natur a dulliau gweithredu'r diwydiant, ond yn bwysicach oll teflir goleuni ar dueddiadau ffasiwn y dyfodol ac ar anghenion y sector. Mae dylunwyr yn bresennol i rannu straeon real am ddechrau busnes o fewn y sector tecstilau. Ar ddiwedd y gweithdy, cynigir sesiynau mentora gyda staff y gymdeithas i drafod eu syniadau busnes yn gyfrinachol. www.wcta.org.uk