Technegau

Cydlynwyr lleol Gall y cydlynwyr ddod atat i fan cyfleus rhywle ar Ynys Mon i dy helpu.

Cydlynwyr lleol

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs, clicia ar linc Cysylltu a Ni.
mwy
cau
Datblygu syniadau Bydd y cydlynydd yn gallu trafod y syniad gyda ti yn gyfrinachol.

Datblygu syniadau

  • Bydd y cydlynydd yn gallu trafod y syniad mewn cyfarfod i ddechrau.
  • Os wyt ti'n dal am ddatblygu'r syniad ymhellach, bydd y cydlynydd fel arfer yn trefnu i gyfarfod â ti.
mwy
cau
Cymorth Cymorth i gynllunio a sefydlu'r busnes.

Cymorth i gynllunio a sefydlu'r busnes

Man cychwyn da iawn wrth benderfynu sut y gall y Ffatri Fenter dy helpu ydy ysgrifennu cynllun busnes.

Er mwyn gwneud y broses mor hwylus â phosib, gall y cydlynydd dy helpu i'w ysgrifennu. (Mae croeso iti wneud hyn dy hun hefyd os wyt ti'n hapus i wneud hynny)

Mae'r cynllun busnes yn arf effeithiol iawn:
  • Wrth geisio troi syniad yn y meddwl yn realiti ar ddu a gwyn.
  • Wrth geisio penderfynu os oes potensial i wneud elw o'r busnes.
  • I sicrhau dy fod wedi meddwl am bob agwedd o'r busnes cyn mentro.
mwy
cau
Marchnata Cefnogaeth ymarferol ac ariannol.

Cefnogaeth ymarferol ac ariannol i farchnata'r busnes

  • Cymorth i ddatblygu cynllun marchnata.
  • Cymorth i ddylunio deunydd marchnata.
mwy
cau
Cyngor arbenigol Cyngor arbenigol ymhob maes.

Cyngor arbenigol ymhob maes

Os wyt ti angen trafod unrhyw agwedd o'r busnes ymhellach medrwn:
  • Cysylltu a pherson sydd wedi sefydlu busnes tebyg mewn ardal arall i siarad â ti.

  • Dy roi mewn cysylltiad gyda swyddogion treth ar werth ayb.
mwy
cau
Hyfforddiant Hyfforddiant sy'n berthnasol i dy syniad busnes.

Hyfforddiant

Os wyt ti angen hyfforddiant sy'n berthnasol i dy syniad busnes, gall y Ffatri Fentergynorthwyo i ddarganfod ffynhonell ariannol tuag at y costau.
mwy
cau
Ymchwill Mae gennym dim o arbenigwyr all dy helpu i gynllunio a gwneud ymchwil marchnad.

Ymchwil marchnad ac adnabod cyfleon

  • Mae gennym dîm o arbenigwyr all dy helpu i gynllunio a gwneud ymchwil marchnad.
  • Os fyddwn ni'n gweld potensial i ffurfio menter ar y cyd (joint venture) rhwng dau gleient, byddwn yn cynnig eich rhoi mewn cysylltiad â'ch gilydd.
  • Mae staff y Ffatri Fenter yn dod ar draws syniadau â photensial iddyn nhw yn gyson.
mwy
cau
Benthyciad di-log Cefnogaeth ariannol ar gyfer offer neu stoc.

Benthyciad di-log

Os yw cleient angen cymorth i fuddsoddi mewn offer / stoc ayb i fedru dechrau'r busnes, gall y Ffatri Fenter helpu gyda benthyciad bychan di-log.
mwy
cau
Hyrwyddo Cymorth i hyrwyddo dy fusnes yn gyson.

Hyrwyddo busnesau ein cleientiaid yn gyson

  • Ysgrifennu a gyrru datganiadau i'r wasg.
  • Trefnu cyfweliadau ar gyfer cleientiaid.
  • Llunio astudiaethau enghreifftiol a'u cynnwys ar y wefan, mewn llenyddiaeth marchnata ayb.
  • Rhestr o'r busnesau sydd wedi dechrau masnachu gyda chymorth y Ffatri Fenter ar ein gwefan.
  • Trefnu ffeiriau masnach ar gyfer ein cleientiaid
mwy
cau
Cyfeirio Cyrff eraill a all helpu i ddatblygu dy syniad busnes.

Cyfeirio at ffynonellau defnyddiol eraill

Cymorth Hyblyg i Fusneswww.business-support-wales.gov.uk - 03000 6 03000
Byddwn yn cysylltu â Cymorth Hyblyg i Fusnes pan fydd cleient yn barod i ddatblygu’r busnes ymhellach / i lefel mwy llawn amser. Ymhlith eu gwasanaethau mae gwasanaeth pellach un i un a Grant Dechrau Busnes.

Menter yr Ifancwww.young-enterprise.org.uk02920 660 420
Bydd y Ffatri Fenter yn cydweithio llawer gyda Menter yr Ifanc ar eu Rhaglen Cwmni (i ddisgyblion 6ed dosbarth) a’u Rhaglen Graddedigion (myfyrwyr) trwy asio gwasanaethau’r ddau gynllun i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid.

Graduate 2 Enterprisewww.g2e.co.uk - 08456 010 505
Os yw’n cleient wedi graddio o fewn y tair mlynedd dwythaf, gall G2E gyfrannu at y cymorth sy’n cael ei ddarparu gennym trwy ddod o hyd i berson busnes proffesiynol i weithredu fel mentor yn rhad ac am ddim.

Ymddiriedolaeth y Tywysogwww.princes-trust.org.uk - 0800 842 842
Mae’r Ymddiriedolaeth yn adnabyddus am eu gwaith gyda phobl rhwng 18 – 30 mlwydd oed. Un o’u prif dechnegau yw cynnal ‘Buddy Workshops’, sef gweithdy diwrnod yn helpu pobl i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddechrau busnes.

Menter Ddiwylliannolwww.cultural-enterprise.com - 029 2034 3205
Os yw un o’n cleientiaid mewn busnes yn ymwneud â’r celfyddydau, byddwn yn cydweithio gyda Menter Ddiwylliannol sydd yn arbenigo mewn gwneud ymchwil yn y maes. Mae ganddynt hefyd fas-data helaeth o fentoriaid all eich helpu.

KEF (Knowledge Exploitation Fund)www.kef-wales.org.uk
Byddwn yn cydweithio gyda KEF pan fo cleientiaid sydd wedi graddio o fewn y tair mlynedd ddiwethaf yn mynd ati i ddatblygu syniad busnes sydd yn berthnasol i’w gradd. Medrant ennill ysgoloriaeth sy’n helpu i’w cynnal am y 9 mis cyntaf.

Cyllid Cymruwww.financewales.co.uk - 029 2038 8100
Os yw cleient angen benthyciad mwy sylweddol na’r un a gynigir yn ddi-log gan y Ffatri, yna byddwn yn cysylltu gyda Cyllid Cymru sydd yn medru cynnig benthyciadau sydd fel arfer â llog is na benthyciad gan y banc.
mwy
cau
[ Brig ] Intec, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG | Rhif Ffôn: 01248 672691 | Ffacs: 01248 672691 | E-bost: s.catrin.jones@menterabusnes.co.uk