Newyddion Diweddar

Derbyniad swyddfa'r Ffatri Fenter yng Nghaergybi
18/01/2008

Mae drysau swyddfa newydd y Ffatri Fenter yng Nghaergybi wedi cael eu hagor o fewn Swyddfeydd Cyngor Tref Caergybi. Yn ogystal a safle i gynnal cyfarfodydd a gweithdai, mae’r swyddfa newydd yn rhoi cyfle i gleientiaid y Ffatri arddangos eu gwaith i’r cyhoedd yn Neuadd y Dref wrth ddarparu cabinets arddangos i gynyddu gwerthiant nwyddau’r cleient. Cafwyd lansiad llwyddiannus iawn Rhagfyr yr 20fed, wrth i Cynghorwyr Tref a Sir ymweld â’r swyddfa a chael cyfle i sgwrsio gyda cleientiaid presennol y Ffatri sydd newydd ddechrau masnachu. Llwyddodd 2 o’r busnesau i ddenu cwsmeriaid posib o’r lansiad. Y busnesau a fasnachodd yn y lasiad oedd:- Chris Davies – Computerly Clean – Gwasanaeth glanhau cyfarpar swyddfa megis cyfrifiaduron, ffon, llygod ayyb Yaron a Carli Thau – Bron 2 Late – Busnes cynyrchu ategolion lledr ar gyfer ail greu rhyfeloedd. Krisy Mills – Krisy – Busnes torri gwallt a choluro Michael Hughes – Lobster Potting - Gwerthu cimychiaid o fae Caergybi Karl Power – Dylunydd Mewnol.

Mwy
Agoriad Swyddfa Newydd yng Nghaergybi
20/11/2007

Mae swyddfa newydd y Ffatri Fenter wedi agor ei drysau yng Nghaergybi o fewn swyddfeydd y Cyngor Tref. Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd un i un a gweithdai ar y safle, bydd cyfle i gleientiaid presennol a newydd arddangos eu gwaith i'r cyhoedd yn Siambrau'r Cyngor, fydd yn rhoi mwy o botensial i gynyddu cyfleoedd marchnata a gwerthiant. Bydd yn agored i unrhyw berson ifanc ym Môn sydd gyda diddordeb mewn dechrau busnes neu efo syniad busnes penodol. Caiff gleientiaid fynediad at adnoddau TG, y we yn ogystal â safle pwrpasol ar gyfer un ai cyfarfod aelod o’n tîm neu safle distaw i weithio er mwyn datblygu eu syniad busnes. Os ydych chi yn byw yng Nghaergybi cofiwch alw draw i Swyddfeydd y Cyngor Tref yn Stryd Newry neu ffoniwch ni ar 01248 672691 neu 01407 763739

Mwy
Cymorth i'r ifanc yng nghefn gwlad Mon
01/09/2007

Cynhaliodd y Ffatri Fenter weithdy gyda Ffermwyr Ifanc Llangoed i hybu entrepreneuriaith. Cafodd y grwp dasg spesifig i'w cwblhau parthed hunan-gyflogaeth. Cafwyd syniadau pendant, o arddwriaeth gymunedol, stondin gacennau i yrfa chwist. Cafwyd hwyl mawr wrth drafod y syniadau.

Mwy
Grwp Ffocws Llangefni
22/08/2007

Cynhaliwyd grŵp ffocws yn y Bull yn Llangefni gyda chriw o bobl ifanc lleol er mwyn darganfod agweddau a barn gyffredinol am fyw a gweithio ar Ynys Môn. Mi fydd pedwar gweithdy arall yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf yn ardaloedd Amlwch, Caergybi, Biwmares a Niwbwrch. Os yr hoffech fynychu neu gwyddoch am rywun a fyddai â diddordeb mewn cyfrannu, cysylltwch â Catrin Jones ar 01248 672691. Er mwyn cymryd rhan rhaid i chi fod rhwng 18 a 30 oed ac yn byw ar Ynys Môn.

Mwy
Sioe Amaethyddol Mon
14/08/2007

Er gwaetha’r glaw a’r mwd daeth miloedd o ymwelwyr drwy giatiau’r Sioe. Mynychodd tîm y Ffatri Fenter a oedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am y prosiect, chyfarfod a phobl newydd yn ogystal â dal fyny efo hen gyfeillion o’r Ynys a thu hwnt.

Mwy
Gweithdy Gwyndaf Evans
14/06/2007

Cafwyd gweithdy llwyddiannus iawn yn Llangefni ym mis Mehefin gyda Gwyndaf Evans, raliwr o fri, dyn busnes llwyddiannus a sylwebydd teledu, yn trin a thrafod ei brofiadau o ddechrau busnes gyda myfyrwyr "motor vehicle". Cafwyd gweithdy hwyliog iawn gyda’r myfyrwyr yn holi Gwyndaf Evans am ei yrfa fel raliwr yn ogystal â’i fusnes llwyddiannus. Pwrpas y gweithdy oedd sbarduno’r mynychwyr i ystyried hunan gyflogaeth fel opsiwn gyrfaol ar gyfer y dyfodol.

Mwy
[ Brig ] Intec, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG | Rhif Ffôn: 01248 672691 | Ffacs: 01248 672691 | E-bost: s.catrin.jones@menterabusnes.co.uk