FAQ

1. Faint bydd cymorth y Ffatri Fenter yn ei gostio i mi?
Dim byd! Y mae'r Ffatri Fenter yn brosiect sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru felly gallwn ddarparu ein hamser a'n gwasanaethau i chi am ddim.
2. Ydy'r Ffatri Fenter yn cynnig grantiau?
Nid oes grantiau ar gael dan gynllun y Ffatri Fenter. Serch hynny, yr ydym bob amser yn edrych am y dulliau gorau o gynorthwyo cleientiaid i fedru sefydlu eu busnesau blasu, a gallwn ymchwilio am grantiau addas ar eich rhan.


Rhaid nodi serch hynny nad oes gan y Ffatri Fenter gronfa o arian yn ein Hadnoddau Datblygu
3. Ai cynllun ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig yw'r Ffatri Fenter?
Dim o gwbl! Mae'r cynllun ar gael i unrhyw un sydd yn byw ar Ynys Mon neu Arfon ac sydd ar hyn o bryd ddim yn gweithio mae cymorth y Ffatri Fenter ar gael drwy'r Gymraeg, y Saesneg neu unrhyw ieithoedd eraill.
4. A allaf weithio mewn grwp neu gyda phartner yn hytrach nag ar ben fy hun?
Cewch wrth gwrs! Rydym ni'n helpu grwpiau o amryw faint – boed yn unigolyn, yn ddau neu dri neu'n dîm o bobl.
5. Dydw i ddim yn gymwys i dderbyn cymorth gan y Ffatri Fenter, oes yna gynlluniau eraill ar gael i'm helpu?
Os nad ydych yn gymwys i gynllun y Ffatri, mae yno amryw o fudiadau/gyfundrefnau eraill a fyddent efallai yn medru darparu cymorth i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Llygad Busnes – pwynt cyswllt ar gyfer cael gwybodaeth, cyngor ac adnoddau wrth sefydlu busnes yng Nghymru.
  • 6. Allwch chi wneud y gwaith gweinyddol i gyd i mi?
    Bydd cydlynydd yn cael ei bennu / phennu ar eich cyfer a'r person hwn fydd eich prif bwynt cyswllt gyda'r prosiect yn ystod y cyfnod blas-fasnachu drwyddo draw.

    Mae'r cydlynydd yno i'ch cynorthwyo gyda datblygiad eich syniad busnes. Nid yw'r cydlynydd hwn yn Ymgynghorydd Busnes, ac ni fydd yn gwneud popeth ar eich rhan; ond, fe fydd yn eich cynorthwyo i gael y budd mwyaf o'r technegau sydd ar gael, a phenderfynu gyda chi ar y rhai sy'n ateb eich anghenion orau. Gall y cydlynydd lleol eich cynghori am gysylltiadau gydag asiantaethau eraill a all fod o gymorth i chi unai yn ystod neu ar ôl y cyfnod blasu busnes.
    7. Gan fy mod i'n gweithio llawn-amser, a fyddai modd i chi weithio â mi ar y penwythnosau neu nosweithiau?
    Gallwn gyfarfod â chi y tu allan i oriau gwaith cyffredinol, os nad yw'n bosibl i chi ein cwrdd tu fewn i oriau swyddfa. Mewn sefyllfaoedd arbennig gallwn gwrdd yn ystod awr ginio, ar ôl oriau gwaith neu ar y penwythnos. Gall y cydlynydd hefyd ddod i gwrdd â chi mewn canolfan gyfleus megis caffi neu dafarn leol os yw hynny o ddefnydd.
    8. Bydd y Ffatri yn fy helpu ar ôl i mi sefydlu'r busnes?
    Yn dilyn y profiad o flasu busnes, bydd y gwasanaeth canlynol ar gael i chi:
    • Sesiwn gyda'ch cydlynydd i arolygu'r profiad o flasu busnes a thrafod beth fydd eich camau nesaf.
    • Cyngor ynghylch lle i fynd am gymorth pellach os yw'r syniad blasu busnes am gael ei ddatblygu yn fenter ar raddfa fwy.
    Mae'n bwysig nodi bod y cymorth a ddarperir gan y prosiect hwn yn dod i ben ar ôl yr arolwg o brofiad y busnes blasu. Yn dilyn hyn, bydd eich cydlynydd yn fodlon iawn i'ch trosglwyddo at ddarparwyr gwasanaethau addas er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth orau posibl.
    9. Oes rhaid i mi wneud cynllun busnes? Pe bai, pa mor fanwl bydd angen i'r cynllun fod, yn enwedig yr ochr ariannol?
    Nid ydym yn disgwyl i chi gynhyrchu cynllun busnes lawn gan taw busnes blasu y byddwch yn datblygu. Serch hynny, mae'n synhwyrol i roi eich syniad brawf ar bapur – mae hyn yn aml o fudd mawr i'n cleientiaid, gan ei bod hi'n gyfle i feddwl drwy'r syniad busnes yn fanylach, sicrhau fod ymchwil digonol wedi ei wneud ac i sicrhau fod ochr ariannol y busnes blasu yn gwneud synnwyr.

    Rydym yn darparu templed ar gyfer cynllun y busnes blasu, ynghyd â chymorth cydlynydd i'w lenwi.
    10. Ran cyfnod amser, am faint sydd angen i'r busnes fodoli?
    Mi fydd cyfnod y fenter yn cael ei benderfynu yn eich cyfarfod cyntaf gyda'r cydlynydd lleol. Gall y fenter amrywio o ran hyd – o ddigwyddiad un noswaith i brosiect tipyn mwy parhaol sy'n dri mis o hyd neu fwy! Yn aml, y math o gynnyrch/gwasanaeth a gynigir yw'r ffactor mwyaf sy'n dylanwadu hyd y fenter.
    11. Pe bawn ni'n dod at y Ffatri am gymorth, a fyddai modd i mi ddefnyddio cymorth asiantaethau eraill yn ogystal?
    Cynllun cyn-ddatblygol yw'r Ffatri Fenter ac mae'n darparu gwasanaeth 'blasu busnes'. Fodd bynnag, mae nifer o gysylltiadau gennym gydag asiantaethau cefnogi busnes eraill, sy'n medru ychwanegu at unrhyw gymorth yr ydym ni yn ei gynnig, pebai angen. Wedi i'r Ffatri Fenter eich helpu gyda'ch syniad blasu busnes, a'ch bod am ddatblygu y syniad busnes hwnnw neu syniad busnes mwy ymhellach, gallwn eich cynorthwyo i ddod mewn cysylltiad gydag asiantaethau cymorth busnes i'ch helpu.
    [ Brig ] Intec, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG | Rhif Ffôn: 01248 672691 | Ffacs: 01248 672691 | E-bost: s.catrin.jones@menterabusnes.co.uk