Mae'r Ffatri Fenter yn rhoi'r cyfle unigryw i bobl sydd yn byw ym Môn ac Arfon, roi cynnig ar dreialu syniad busnes ac yn darparu cymorth pellach cyn cychwyn busnes. Wyt allan o'r byd gwaith? Eisiau cefnogaeth bellach ar ddatblygu neu dreialu syniadau busnes? Dyma'r gwasanaeth i ti!
Os wyt awydd peilota syniad busnes am gyfnod; angen fwy o gymorth cyn cychwyn y busnes neu eisiau gweld os yw cychwyn busnes yr opsiwn gorau i ti, gall ein tîm ddarparu’r gefnogaeth briodol wedi ei deilwra ar gyfer dy anghenion penodol.
Yn ychwanegol i’r cymorth un i un cyn cychwyn i drafod a datblygu syniadau busnes, gall Ffatri Fenter Môn Menai gynorthwyo cleientiaid drwy gynnig adnoddau arbenigol megis marchnata, hyfforddiant, cyngor arbenigol, ymchwil farchnad yn ogystal â benthyciadau bychan di-log.
Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac felly mae ein hystod gwasanaethau yn rhad ac am ddim. Clicia ar ‘Astudiaethau Achos’ ar ben y dudalen hon am hanesion cleientiaid sydd wedi manteisio ar y gwasanaeth yn y gorffennol.